Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Contractau Safonol â Chymorth) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022

 

Craffu Technegol: Mae Llywodraeth Cymru o’r farn, gan nad yw materion ynghylch cywirdeb y rhestr eiddo ond yn debygol o godi ar ddiwedd y contract meddiannaeth, nad oes angen pennu amserlen benodol. Mae’n annhebygol hefyd na fyddai’r landlord yn ymateb, pe bai’r landlord yn anghytuno â sylwadau deiliad y contract ynghylch y rhestr eiddo, oherwydd y gallai methu ag ymateb yn y sefyllfa honno awgrymu bod y landlord yn cytuno â sylwadau deiliad y contract.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau: Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y darpariaethau yn cydbwyso hawliau Confensiwn deiliaid contract, landlordiaid ac unigolion eraill y gallai argyfwng eu rhoi mewn perygl.